Welsh Titles...

Wedi gorffen darllen Stori Sydyn? Dyma gyfle i ddweud eich dweud!

Stori Sydyn

Cyfres newydd wych ar gyfer oedolion sy’n egin ddarllenwyr

Jake

gan Geraint V. Jones

ISBN: 1 84323 683 4

Mae merch ifanc wedi cael ei threisio ym Mhencraig.

Rhaid i DCI Mat Francis ddod o hyd i’r ymosodwr cyn iddo dreisio a lladd merch ifanc arall. Mae ei yrfa'n dibynnu ar hynny. Ond mae Jake, brawd Mat, hefyd ar y trywydd. Gohebydd ydy Jake, ac mae ganddo drwyn am stori. Stori fawr.

A fydd un ohonyn nhw’n llwyddo i ddal y Treisiwr?

I ddarllen pytiau o Jake, cliciwch yma.

I wrando ar ddyfyniad byr, cliciwch yma.

Parti Ann Haf

gan Meleri Wyn James

ISBN: 1 84323 684 2

Doedd bywyd ddim i fod fel hyn i Ann Haf. Mae hi'n fam i ddau o blant. Mae ganddyn nhw ddau dad gwahanol. Dim ond 28 oed ydy hi. Un noson, mae hi'n mynd i barti dillad isaf secsi. Mae’n newid ei bywyd am byth!

I ddarllen pytiau o Parti Ann Haf, cliciwch yma.

I wrando ar ddyfyniad byr, cliciwch yma.

You are viewing the text version of this site.

To view the full version please install the Adobe Flash Player and ensure your web browser has JavaScript enabled.

Need help? check the requirements page.

Get Flash Player