Os Mêts . . . Bethan Gwanas
Y Lolfa ISBN: 9780862439408 (086243940X) £1.99
Mae Ann ar fin priodi Dylan. Ond rhaid iddi fynd ar benwythnos cwennod cyn priodi. Hanna, ei mêt gora, sy wedi trefnu pob dim ac mae Hanna’n nytar. Limousine i Gaer? Dim ffiars o beryg! Canŵs a dringo a ryw lol fel’na sydd wedi ei drefnu, a dydi’r criw ddim yn hapus. Ond diawch, mae ’na hwyl i’w gael yn y diwedd – ac ambell gath yn cael ei gollwng o’r cwd. Fyddan nhw byth, byth yn anghofio’r penwythnos hwn.
2007 titles
Tacsi i’r Tywyllwch Gareth F. Williams
Y Lolfa ISBN: 9780862439439 (0862439434) £1.99
Dau gorff i ddechrau. Anodd eu nabod o ganlyniad i’r tân.
Ac mae llaw hefyd, yn perthyn i gorff arall. Ond mae’r heddlu’n datrys y problemau hyn yn ddigon hawdd. Y broblem yw PWY wnaeth e, a PHAM? Mae’r heddlu’n meddwl eu bod yn gwybod PAM. Ond does dim llawer o brawf. Ac maen nhw’n nabod y rhan fwyaf o’r lladron, gwerthwyr cyffuriau, mygyrs a bwlis. Felly mae PWY yn broblem anodd. Ond un gair o gyngor! Gwyliwch rhag yr un sy’n teithio yn y tacsi.
Y Jobyn Gorau Yn y Byd Gary Slaymaker
Y Lolfa ISBN: 9780862439415 (0862439418) £1.99
Pwy yw’r person lwcus sy ’di cwrdd â Stan Lee, y gŵr a greodd y comics Spider-Man, yr Incredible Hulk a’r Fantastic Four? Pwy aeth i Hollywood a chwrdd â Clint Eastwood yno, a dweud ‘olreit, lyf’ wrth Charlize Theron? Pwy gafodd brynhawn ar y pop yn Efrog Newydd yng nghwmni Rhys Ifans? Mae e’n nabod Gareth Edwards, ac yn cefnogi tîm rygbi cenedlaethol Cymru yn ogystal â bod yn gefnogwr brwd o dîm pêl-droed Cardiff City. Hefyd, wrth gwrs, mae e’n dwlu ar fynd i weld ffilmie, siarad am ffilmie a dweud ei farn yn blaen wrthon ni ar y bocs. Wel, chi’n gwbod yn iawn nawr hanes pwy sydd yn y llyfr ’ma!
Y Rhwyd Caryl Lewis
Y Lolfa ISBN: 9780862439422 (0862439426) £1.99
Mae Meic mewn cariad â’i wraig, Eirlys, ac wrth ei fodd gyda’i ddau blentyn ifanc, Beca a Jac. Pam yn y byd mae e’n chwilio am y ‘rhywbeth bach ecstra’ ’na? Ond mae rhyw ysfa ynddo i fynd ar y trips ‘gwaith’ dros nos. Oes unrhyw syniad gan Eirlys bod Meic yn trefnu ei ‘rywbeth bach ecstra’ ar y we? Bod ei gŵr yn rhoi rhaff i’w ffantasïau ac yn manteisio ar ddyheadau rhywiol rhes o ferched. Ydy Eirlys yn amau pam mae ei gŵr yn mynd bant dros nos? A Paul, ffrind gorau Meic, a ffrind i Eirlys ers pan oedden nhw’n blant – beth yw ei rôl e ym mywyd Meic a’i deulu? Druan o Meic, mae’r rhwyd yn cau amdano mor sydyn ac mor annisgwyl. Ond bydd y cyfan yn glir erbyn y diwedd . . .




