Ar Ddiwrnod y Llyfr, 1 Mawrth 2007, bydd teitlau newydd sbon yng nghyfres Stori Sydyn/Quick Reads yn cael eu lansio

Lansiwyd cynllun Stori Sydyn/Quick Reads yn 2006 i gynnig cyfres o lyfrau byr, cyffrous, byrlymus, wedi’u hysgrifennu'n benodol gan awduron poblogaidd, ar gyfer oedolion sy’n egin ddarllenwyr, y sawl sydd wedi colli’r arfer o ddarllen neu unrhyw un sy'n chwilio am lyfr i’w ddarllen yn sydyn.

Mae hwn yn fenter ar y cyd rhwng yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol a Chyngor Llyfrau Cymru. Ariennir y llyfrau gan yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol fel rhan o Strategaeth Genedlaethol Sgiliau Sylfaenol Cymru ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Cyhoeddwyd pedwar llyfr Cymraeg a dau Saesneg yn 2006 a bydd wyth llyfr newydd sbon – pedwar Cymraeg a phedwar Saesneg – yn cael eu lansio ar Ddiwrnod y Llyfr 2007 – 1 Mawrth.

You are viewing the text version of this site.

To view the full version please install the Adobe Flash Player and ensure your web browser has JavaScript enabled.

Need help? check the requirements page.

Get Flash Player